Our Remit and Guiding Principles
HM Inspectorate of Court Administration
HMICA is an independent, statutory Inspectorate created by the Courts Act 2003 as amended by the Police and Justice Act 2006. Our duty is to:
· inspect and report to the Lord Chancellor on the system that supports the carrying on of the business of the courts (the Crown Court, county courts and magistrates’ courts) and the services provided for those courts;
· discharge any other particular functions which may be specified in connection with the courts listed
HMICA is not empowered to inspect persons making judicial decisions or exercising any judicial discretion.
Definition of inspection:
HMICA is committed to the definition of inspection in the Government’s Policy on Inspection (2003) which states that inspection is an external review that should:
· be independent of service providers;
· provide assurance, to Ministers and the public, about the safe and proper delivery of those services;
· contribute to improvement of those services;
· report in public; and
· deliver value for money.
HMICA is also committed to the ten principles of inspection set out in the same policy. These state that public services inspection should:
· pursue the purpose of improvement;
· focus on outcomes;
· take a user perspective;
· be proportionate to risk;
· encourage self-assessment by managers;
· Use impartial evidence, wherever possible;
· disclose the criteria used for judgement;
· be open about the processes involved;
· have regard to value for money, including that of the inspecting body and
· continually learn from experience.
Arolygiaeth Gweinyddiaeth Llysoedd EM
Mae AGLlEM yn Arolygiaeth annibynnol a statudol a grëwyd gan Ddeddf Llysoedd 2003 fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006. Ein dyletswydd yw:
· arolygu a chyflwyno adroddiadau i’r Arglwydd Ganghellor am y system sy’n cynnal cyflawni busnes y llysoedd (Llys y Goron, y llysoedd sirol a’r llysoedd ynadon) a’r gwasanaethau a ddarperir ar gyfer y llysoedd hynny;
· cyflawni unrhyw swyddogaethau penodol eraill y gellid eu pennu yng nghyswllt y llysoedd a restrwyd
Nid oes gan AGLlEM y pwer i arolygu pobl sy’n gwneud penderfyniadau barnwrol neu’n ymarfer unrhyw grebwyll barnwrol.
Diffinio arolygu:
Mae AGLlEM wedi’i ymrwymo i’r diffiniad o arolygu a geir ym Mholisi’r Llywodraeth ar Arolygu (2003), sy’n datgan bod arolygu yn adolygiad allanol a ddylai gyflawni'r canlynol:
· bod yn annibynnol oddi ar ddarparwyr y gwasanaeth;
· rhoi sicrwydd, i’r Gweinidogion ac i’r cyhoedd, bod y gwasanaethau hynny’n cael eu darparu mewn ffordd ddiogel a phriodol;
· cyfrannu at wella’r gwasanaethau hynny;
· cyflwyno adroddiadau cyhoeddus; a
· darparu gwerth am arian.
Mae AGLlEM hefyd yn ymroddedig i’r deg egwyddor arolygu a bennir yn yr un polisi. Mae’r rhain yn datgan y dylai arolygu gwasanaethau cyhoeddus gyflawni’r canlynol:
· cael eu cynnal er mwyn sicrhau gwelliant;
· canolbwyntio ar ganlyniadau;
· cymryd safbwynt y defnyddiwr;
· bod yn gymesur â risg;
· annog hunanasesu ymhlith rheolwyr;
· defnyddio tystiolaeth ddiduedd, pryd bynnag y bo hynny’n bosibl;
· datgelu’r meini prawf a ddefnyddiwyd wrth farnu;
· bod yn agored am y prosesau a ddefnyddiwyd;
· arddel gwerth am arian, gan gynnwys o du’r corff arolygu a
· dysgu’n barhaus o brofiad.
